Home > Pupils

Pupils


Mae 'na lawer o weithgareddau amser cinio ac ar ôl ysgol sy'n fy helpu i fod yn fwy mentrus a blaengar. Ond, y peth gorau yw bod y cinio ysgol yn waw! - Siwan G

Ers cyrraedd Dyffryn Ogwen, 'rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau, mae’r plant a’r staff yn barod i fy helpu bob amser. Dwi’n mwynhau cael darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg a chael dysgu Ffrangeg - Twm P

Rydw i'n hoffi'r gwersi amrywiol yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Rwyf yn cael llawer o gyfleoedd i fod yn greadigol drwy arbrofi gyda syniadau a chreu- yn enwedig yn y Celfyddydau ac mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Moli B

The Maths lessons are great! I'm developing new skills and doing challenging work. I enjoy the TT Rockstars competition and the opportunities to solve problems - Hari E

Dwi’n hoffi y ffordd mae’r athrawon yn gwneud y gwaith yn hwyl ond yn gwneud i ni weithio’n galed hefyd! Dwi’n cael cymorth pan dwi angen a mae Hafan Charlotte yn wych.- Bella P

Mae Ysgol Dyffryn Ogwen yn cynnig llawer o brofiadau. Teimlaf yn saff yma. ‘Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac mae dysgu yn hwyl! - Efa Celyn

Being a pupil at Ysgol Dyffryn Ogwen makes me happy! I've made many new friends and the lessons challenge me to work hard and show perseverance! - Erin M