Large logo ror Ysgol Dyffryn Ogwen

Ysgol Dyffryn Ogwen

Llawenydd, Llafur, Llwyddo

Annwyl Rieni,

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gymuned ac i deulu Ysgol Dyffryn Ogwen yn y dyfodol agos. Mae’r ysgol yn gynhwysol a chroesawgar lle caiff pob disgybl unigol eu parchu a’u gwerthfawrogi; ein nod yw herio pob unigolyn i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a mentrus.

Rydym yn falch eithriadol o fod yn gwasanaethu cymuned Dyffryn Ogwen gan ddatblygu dinasyddion dwyieithog sydd yn falch o’u hetifeddiaeth, lleol a chenedlaethol. Mae Ysgol Dyffryn Ogwen hefyd yn gymuned glos yn ei hun, gydag adnabyddiaeth staff a disgyblion o’i gilydd yn allweddol i ddatblygiad personol y disgyblion.

Rydym yn meithrin safonau uchel o ran ymddygiad, gwisg a chwrteisi gan gynnig amgylchfyd cynhaliol a gofalgar lle bydd pawb yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Caiff disgyblion eu hannog i wneud penderfyniadau pwyllog a doeth ynghylch eu ffordd o fyw.

Mae gennym dimau arbennig sydd yn gweithio’n agos gyda disgyblion o flynyddoedd penodol, a chyswllt cyson gyda theuluoedd ar y daith. Mae partneriaethau cadarnhaol rhwng disgyblion, cartref ac ysgol yn allweddol i lwyddiant unigolion.

Mae pob disgybl yn bwysig yn Nyffryn Ogwen. Datblygiad cyflawn pob unigolyn yw canolbwynt gwaith yr ysgol.

Yn gywir

Dylan Davies

Pennaeth