Hafan > Gwybodaeth > Diogelu
Diogelu
Amddiffyn Plant
Mae pob aelod o staff yr ysgol yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n ei mynychu. Os ceir pryderon ynglŷn ag esgeulustra neu gam-drin corfforol, emosiynol, ariannol neu rywiol, yna mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Threfn Diogelu Plant Cymru Gyfan, i sôn am y mater wrth y Swyddog Amddiffyn Plant. Bydd y Swyddog Amddiffyn Plant yn ymgynghori â chydweithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol, yn unol â chanllawiau Cymru Gyfan a phrotocol lleol. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio. Oherwydd natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio’r plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.