Blwyddyn 6
Cyswllt Cynradd a Gwybodaeth Mynediad
Mae rhaglen bontio ar waith gyda disgyblion sy’n trosglwyddo yn ymweld â’r ysgol ym mlwyddyn 5, ac eto yn ystod mis Tachwedd ac yn nhymor yr Haf ym mlwyddyn 6. Mae hyn yn galluogi’r disgyblion i ymgyfarwyddo efo’r ysgol ac i gymryd rhan weithredol mewn gweithdai, gwersi a gweithgareddau amrywiol. Mae cydweithio agos efo ysgolion cynradd y dalgylch yn sicrhau trosglwyddiad llyfn o’r cynradd i’r uwchradd i’r holl ddisgyblion. Mae cyfathrebu pellach rhwng yr ysgolion yn ein galluogi i adnabod anghenion disgyblion unigol a darparu rhaglenni Pontio Pellach gan arwain at anwytho cynhwysfawr ar eu cyfer. Mae gwybodaeth am fynediad ar gael ar ein gwefan ac ar wefan Cyngor Gwynedd.
Ysgolion Cynradd
Ysgol Bodfeurig
Ysgol Llandygai
Ysgol Gynradd Llanllechid
Ysgol Pen y Bryn
Ysgol Gynradd Rhiwlas
Ysgol Tregarth