Hafan > Gwybodaeth > ADYaCh
ADYaCh
Prif nod y ddarpariaeth addysg arbennig yn yr ysgol yw sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial o fewn awyrgylch groesawgar a chynhaliol. Er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn addas i bob disgybl mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol trwy gynhaliaeth yn y brif ffrwd a/neu trwy eu tynnu allan ar gyfer gwaith grŵp bach neu waith unigol. Mae’r adran, o dan arweiniad y Cyd- gysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn gyfrifol am weinyddu Côd Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae’r mwyafrif o ddisgyblion ag anawsterau dysgu wedi eu hadnabod yn eu hysgolion cynradd. Bydd unrhyw ddisgybl sydd yn cael trafferth gyda sgiliau llythrennedd neu rifedd yn derbyn y cymorth priodol. Mae gan yr ysgol ystafelloedd a chyfarpar addas i athrawon a disgyblion ar gyfer dysgu mewn grwpiau bach er mwyn darparu sylw unigol. Mae yna berthynas waith rhagorol gydag asiantaethau allanol fel y Seicolegydd Addysgol a’r gwasanaethau meddygol.
"Mae'r athrawon yn ymateb yn effeithiol i anghenion disgyblion ar draws yr ystod gallu ac yn paratoi adnoddau pwrpasol i yrru'r dysgu."
Estyn 2022