Hafan > Gwybodaeth

Gwybodaeth


Pam dewis Ysgol Dyffryn Ogwen?

  • Ysgol uwchradd ddwyieithog ar gyfer plant 11-18 oed yw Ysgol Dyffryn Ogwen. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal Bethesda a thu hwnt ac yn cydweithio’n agos gyda’r chwe ysgol gynradd sy’n rhan o’r dalgylch.
  • Mae timau ymroddedig o athrawon a staff cefnogaeth yn hyrwyddo’r gwerthoedd a’r ethos sy’n hanfodol ar gyfer ein hysgol. Mae’r gofal, arweiniad a’r gefnogaeth gan staff yr ysgol yn arbennig. Mynnir safonau uchel o ran dysgu, ymddygiad a pharch a blaenoriaethir lles pob disgybl.
  • Ceir profiadau dysgu heriol a chyfoethog sy’n rhan o gwricwlwm cynhwysfawr a chytbwys dan arweiniad athrawon profiadol a brwdfrydig.
  • Mae’r gefnogaeth i ddisgyblion sydd ag anghenion cynhwysiad neu anghenion dysgu ychwanegol yn rhagorol ac mae tair ystafell gefnogi yn unol ag angen disgyblion penodol - Hafan Charlotte, Caban Carlam a’r Encil.
  • Ein nod yw mynnu safonau a disgwyliadau uchel fydd yn galluogi pob disgybl i lwyddo hyd eithaf ei allu; golyga hyn fod bron i 100% yn cael cynnig lle ar eu dewis cyntaf o gyrsiau prifysgol yn flynyddol.
  • Mae’r ysgol yn cynnig ystod eang o bynciau a chymwysterau sy’n galluogi pob disgybl i brofi llwyddiant. Bydd yr holl ddisgyblion yn cael dewis agored o bynciau wrth gychwyn ar gyrsiau TGAU a Safon Uwch.
  • Rhoddir pwyslais ar weithgareddau allgyrsiol, a chaiff y disgyblion lu o gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu eu talentau mewn meysydd amrywiol.
  • Mae amrywiaeth dda o weithgareddau a theithiau, lleol a thramor, yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gyfoethogi addysg ein disgyblion.
  • Mae cyfleusterau’r ysgol yn fodern a phwrpasol i anghenion y cwricwlwm, gan gynnwys suite cerddorol Apple Mac a holl adnoddau’r ganolfan hamdden.
  • Cynigir gwasanaeth bws mini i gludo disgyblionadref pe baent yn mynychu clybiau neu weithgareddau ar ôl Ysgol