Hafan > Gwybodaeth > Lles
Lles
Agwedd ac Ymddygiad
Mae Ysgol Dyffryn Ogwen yn cynnig nifer o brofiadau i bob disgybl a fydd yn eu cynorthwyo i fod yn ddinasyddion cyfrifol a blaengar o fewn yr ysgol a’u cymuned. Mae’r ysgol yn pwysleisio disgwyliadau ymddygiad da a’r hyn fyddwn yn ei ddisgwyl o ddydd i ddydd gan ein disgyblion, sef cwrteisi a pharch tuag at eraill.
Byddwn yn hyrwyddo hunanddisgyblaeth wedi ei seilio ar ystyriaeth a pharch tuag at eraill, yn ddisgyblion, athrawon, ymwelwyr yn ogystal â hunan barch.
Anogir y disgyblion i weithio, dysgu a thyfu gyda’i gilydd yn yr awyrgylch hon. Mae gan yr ysgol bolisi gwrthfwlio a bydd pob disgybl yn deall trwy gyfrwng gweithgareddau ABCh a rhaglenni gwaith iechyd a lles ac ACRh, yn ogystal â’r gwasanaethau boreol, y niwed y mae bwlio’n gallu ei achosi a pham nad yw’n dderbyniol.
Mae gennym dîm arbennig o Ddirprwy Benaethiaid Blwyddyn sy’n sefydlu a chynnal cyswllt agos gyda disgyblion a theuluoedd yn ôl yr angen.
Y mae’r côd ymddygiad isod yn sail i holl waith yrysgol a datblygiad y disgyblion.
Côd Ymddygiad Cyffredinol
- Parchu cyd-ddisgyblion a staff
- Parchu’r ysgol a’i chadw’n lân ac yn daclus
- Parchu eiddo cyd-ddisgyblion a’r ysgol bob amser
- Parchu rheolau dosbarth er mwyn caniatáu i bawb ddysgu
- Bod yn gwrtais bob amser
- Bod yn onest
- Bod yn gyfrifol a derbyn cyfrifoldeb
- Gwneud yn fawr o bob cyfle
Gofal Bugeiliol
Y Dirprwy Bennaeth Blwyddyn yw’r ffigwr allweddol yn y cyswllt sydd rhwng yr ysgol a’r cartref; bydd yn dod i adnabod eich plentyn yn dda. Gellir dod ag unrhyw neges o’r cartref i’r Dirprwy Bennaeth Blwyddyn yn ystod y cyfnodau cofrestru boreol, ac fe’i trosglwyddir i’r adran berthnasol yn yr ysgol er mwyn sicrhau ymateb buan. Mae gan y Pennaeth Blwyddyn gyfrifoldeb o arwain y Dirprwy Benaethiaid Blwyddyn a chyfrifoldeb cyffredinol am arolygu lles a chynnydd y disgyblion. Anogir rhieni i gysylltu â’r ysgol i drafod unrhyw broblemau penodol, gellir gwneud apwyntiad i weld y Pennaeth Blwyddyn yn y lle cyntaf drwy ffonio swyddfa’r ysgol. Mae gan yr ysgol berthynas ragorol â’r asiantaethau allanol sy’n gysylltiedig â lles cyffredinol disgyblion a chefnogaeth teuluoedd.